Alistair Davey MA Chartered FCIPD

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

Social Services and Integration Directorate Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Health and Social Services Group

 

 

 

 

Nick Ramsay AC, 

Cadeirydd, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

                                                                                                                        31 Mai 2018

Annwyl Nick,  

 

Yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr oeddwn yn bresennol ynddo gydag Albert Heaney ar 30 Ebrill, cytunais i ysgrifennu at y Pwyllgor ynglŷn â’r ddau faes canlynol: 

 

1. Cadarnhau a oes unrhyw blant yn aros i gael eu rhoi mewn gofal yn unrhyw ardal awdurdod lleol, ac os oes, sawl un?

Nid oes unrhyw blentyn yn aros i gael ei roi mewn gofal yng Nghymru. Bydd lleoliad yn cael ei ganfod i bob plentyn a pherson ifanc sydd angen gofal gan awdurdod lleol, a bydd awdurdodau lleol yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i’r lleoliad mwyaf addas i blentyn penodol, yn unol â’u dyletswyddau statudol. Mae amryw o opsiynau o ran lleoliadau ar gael i awdurdodau lleol, gan gynnwys lleoliad gyda gofalwr maeth awdurdod lleol, trefniadau gofal gan berthnasau gan gynnwys gorchmynion gwarcheidwaeth arbennig, lleoliad gyda gofalwr asiantaeth faethu annibynnol, neu ofal preswyl. Bydd y lleoliad mwyaf addas i blentyn yn cael ei nodi fel rhan o’r broses cynllunio gofal, sy’n gwneud asesiad cyfannol o anghenion a chanlyniadau personol y plentyn.  

 

Weithiau bydd angen rhoi plentyn mewn trefniant dros dro neu drefniant brys cyn dod o hyd i leoliad mwy addas a hirdymor. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhoi plentyn mewn cartref plant nes bod lleoliad maethu addas ar gael, neu efallai y bydd angen rhoi plentyn sydd i’w fabwysiadu gyda rhieni maeth nes y deuir o hyd i fabwysiadwr addas.  

 

Mae awdurdodau lleol yn ceisio sicrhau cyfyngu ar sawl gwaith y caiff plentyn ei symud o’r naill leoliad i’r llall wrth dderbyn gofal. Mae dyletswydd arnynt o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gymryd camau i sicrhau bod ganddynt ddarpariaeth ddigonol i ddiwallu anghenion eu poblogaeth sy’n derbyn gofal. Mae awdurdodau lleol wrthi’n llunio strategaethau comisiynu lleoliadau i’w galluogi i gyflawni’r ddyletswydd ‘digonolrwydd’ hon.  Maent hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu darpariaeth fwy arbenigol ar sail ranbarthol.

 

 

Parc Cathays §Cathays Park

Ffon § Tel 0300 025 6319 Caerdydd §Cardiff 

               Ffacs § Fax 02920 823924                    Alistair.Davey@gov.wales

 

 

Er ein bod yn casglu data yn genedlaethol o ran sawl gwaith y bydd plentyn yn symud lleoliad, nid ydym yn casglu gwybodaeth am addasrwydd lleoliadau ar gyfer pob plentyn na gwybodaeth ynghylch a yw lleoliad yn diwallu anghenion plentyn yn llawn. Mae’n wybodaeth fanwl a fydd yn rhan o’r broses gynllunio ac adolygu gofal ar gyfer pob plentyn, a bydd ar gael ar lefel awdurdodau lleol. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wrthi’n cynnal adolygiad thematig o wasanaethau i blant sy’n derbyn gofal ledled Cymru, a bydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau plant a phobl ifanc, gan gynnwys addasrwydd lleoliadau. Disgwylir iddi gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2019.  

 

2. Cadarnhau sut y mae’r gwariant ar y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal a’r rhai a fabwysiadwyd yng Nghymru yn Cymharu â’r gwariant yn Lloegr.

 

Nid yw’n bosibl cymharu’r Grant Datblygu Disgyblion yng Nghymru a’r Premiwm

Disgyblion yn Lloegr.  Rydym yn buddsoddi symiau na welwyd eu tebyg o’r blaen yn y Grant Datblygu Disgyblion, sef cyfanswm o £93 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, gydag oddeutu £4 miliwn o hynny wedi’i dargedu’n benodol tuag at gefnogi plant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig.  Mae’r cyllid ar gyfer y Premiwm Disgyblion yn Lloegr oddeutu £2.4 biliwn.  Mae’r gwahaniaeth ym maint y cyllidebau yn golygu bod angen inni fod yn fwy creadigol a chraff o ran ein defnydd o’r cyllid yng Nghymru.

 

Caiff elfen y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig ei rheoli a’i gweinyddu gan y consortia addysg rhanbarthol. Ehangwyd y grant yn 2015 i gynnwys plant mabwysiedig yn benodol.  Mae’r buddsoddiad hwn yn cydnabod y bydd llawer o blant mabwysiedig yn profi heriau tebyg ym myd addysg i’r rhai a brofir gan blant sy’n derbyn gofal; ac nad yw gorchymyn mabwysiadu’n golygu nad ydynt bellach yn dioddef yn sgil canlyniadau trawma cynnar a gawsant.

 

Defnyddir y grant ar lefel strategol i gefnogi strategaethau cyffredinol neu ysgol gyfan sy’n meithrin gallu’r system ac sydd o fudd i garfan ehangach o ddysgwyr; ac fe’i defnyddir hefyd ar gyfer ymyriadau wedi’u targedu i gefnogi anghenion penodol dysgwyr unigol.   Er bod dulliau strategol ysgol gyfan o fudd i garfan ehangach, mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu bod y rhain yn cael effaith gadarnhaol anghymesur ar grwpiau sy’n agored i niwed, gan gynnwys dysgwyr sy’n derbyn gofal a dysgwyr mabwysiedig. 

 

Enghraifft benodol o brosiect strategol rhanbarthol yw prosiect Ymwybyddiaeth o Ymlyniad Ein Rhanbarth ar Waith (ERW), a ddatblygodd sgiliau gweithwyr addysg proffesiynol fel eu bod yn gallu cefnogi plant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig yn well yn ogystal â grŵp ehangach o ddysgwyr sy’n agored i niwed. Defnyddiwyd dull tebyg gan Gonsortiwm Canolbarth y De ynghylch Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.  Gellir ariannu ymyriadau unigol mwy pwrpasol hefyd drwy’r grant; fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod angen i wasanaethau addysg fod yn ymwybodol o’u dysgwyr mabwysiedig.

 

Cyfrifir dyraniadau consortia ar sail nifer y plant sy’n derbyn gofal o fewn eu hardal. Nid yw niferoedd y plant mabwysiedig yn ymddangos yn y cyfrifiad gan na fyddai data gwasanaethau cymdeithasol a gesglir yn genedlaethol ar blant mabwysiedig yn rhoi’r wybodaeth benodol sydd ei hangen, yn arbennig o ran oedran y plant a lle maent yn byw neu’n mynd i’r ysgol.  

 

Rhoddwyd tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y Grant Datblygu Disgyblion i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Mawrth.  Trafodwyd yn benodol sut yr oedd y grant yn cefnogi plant mabwysiedig a chadarnhaodd yr

Ysgrifennydd eu bod wrthi’n ystyried casglu data ar blant mabwysiedig drwy’r

Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).  Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn glir y byddai casglu unrhyw ddata o’r fath yn y dyfodol yn seiliedig yn gyfan gwbl ar ddewis rhieni sy’n mabwysiadu i ddatgelu statws eu plant fel plant mabwysiedig.  Fodd bynnag, byddai’n rhoi darlun cenedlaethol nid yn unig o nifer y plant mabwysiedig yn ein hysgolion, ond efallai’n bwysicach eu cyrhaeddiad a’u cynnydd addysgol fel bod modd i wasanaethau asesu a diwallu eu hanghenion addysgol yn well.  

 

Yn ychwanegol at y wybodaeth a ddarparwyd uchod i’r Pwyllgor, efallai y byddwch yn dymuno gwybod am y gwaith ymchwil diweddar a wnaed fel rhan o raglen waith Grŵp Cynghori’r Gweinidog. Gwnaed Dadansoddiad o ganlyniadau plant a phobl ifanc 4 i 5 mlynedd ar ôl Gorchymyn Gofal terfynol gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus a gyhoeddwyd ar 15 Mai. Rwy’n atodi dolenni i fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r prif adroddiad a’r crynodeb ar wefan Llywodraeth Cymru sy’n nodi casgliadau cadarnhaol ynglŷn â gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru.

 

https://gov.wales/statistics-and-research/analysis-outcomes-children-young-people4-5-years-after-final-care-order/?skip=1&lang=cy

 

https://gov.wales/statistics-and-research/analysis-outcomes-children-young-people4-5-years-after-final-care-order/?lang=en

 

 

Yn gywir

 

 

 

 

 

Alistair Davey MA FCIPD Siartredig

Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio